Hoffai'r ysgol rannu datganiad gyda chi gan deulu Mrs Elin Boyle;
Fel teulu rydym yn teimlo’n ofnadwy o drist. Mae’n anodd disgrifio pa mor boenus yw colli un annwyl drwy’r salwch meddyliol creulon hwn y bu rhaid i Elin frwydro yn ei erbyn am dros 25 o flynyddoedd.
Hoffem ddiolch i Heddlu De Cymru a thimau achub yr Arfordir am eu holl help a’u cefnogaeth wrth geisio dod o hyd i Elin, nid yn unig y tro hwn ond hefyd ar achlysuron blaenorol ac i Staff a Disgyblion Ysgol Plasmawr am eu cefnogaeth gyson i ni fel teulu.
Rydym yn wirioneddol ddiolchgar am y sylwadau gan ffrindiau, cydweithwyr, disgyblion a chyn-ddisgyblion ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd hi’n berson wirioneddol arbennig a trueni mawr nad yw yma i weld yr holl gariad sy’n cael ei mynegi amdani. Roedd ganddi’r ddawn i wneud i eraill deimlo’n well ac yn hapus a byddai’n mynd y filltir ychwanegol i helpu eraill.
Ein hunig gysur yw bod Elin bellach mewn hedd. Cysga’n dawel. ❤️
Hoffai'r ysgol ddiolch o waelod calon am yr holl ofal a chariad a ddangoswyd i bawb yng nghymuned Plasmawr yr wythnos hon.
Gydag amser, bydd cyfle i ni fel cymuned i ddathlu bywyd a chyfraniad amhrisiadwy Mrs Elin Boyle, a bydd gwahoddiad agored i unrhywun a hoffai ymuno efo ni.
Catrin Pallot
Dirprwy Bennaeth