Llongyfarchiadau mawr i holl ddisgyblion Blwyddyn 11 sydd wedi derbyn canlyniadau TGAU a BTEC rhagorol eleni er iddi fod yn flwyddyn heriol i bawb.
Bu’n gyfnod di-gyffelyb ar sawl cyfrif ac yn enwedig i ddisgyblion Blwyddyn 11 cafodd eu amddifadu o brofiadau arferol cwblhau Cyfnod Allweddol 4. Rhaid canmol eu ymroddiad i gwblhau pob darn o waith cyn y cyfnod ‘clo’ a maent wedi gorfod aros yn amyneddagr am fisoedd lawer ar gyfer eu canlyniadau.
Y graddau a ddyfarwnyd i’r disgyblion yw’r graddau a ddyfarnwyd gan yr ysgol (CAG) yn dilyn proses manwl a thrylwyr o asesu gan yr athro pwnc, proses cymedroli adrannol ac yna proses craffu gan aelodau’r Tîm Arwain a’r Pennaeth. Mae patrwm perfformiad y flwyddyn hon yn dilyn patrymau perfformiad blynyddoedd blaenorol.
BTEC: Yn dilyn penderfyniad hwyr gan Pearson i ail-raddio cymwysterau BTEC, mae’n bosib bydd y gradd a ymddengys heddiw ar yr adroddiad edulink ar gyfer cyrsiau BTEC yn newid yn sgil y broses ail-raddio. Yn anffodus fe ddaeth y penderfyniad yn rhy hwyr ddoe i fedru tynnu’r canlyniadau o’n system canlyniadau.
Hoffwn ddiolch i’r holl staff sydd wedi gweithio’n ddi-flino i roi pob cyfle i’r disgyblion lwyddo yn eu arholiadau TGAU a BTEC.
Llongyfarchiadau i bob disgybl ym mhlwyddyn 11 beth bynnag eu graddau a dymunaf yn dda i bob un ohonynt ar gyfer y bennod nesaf cyffrous yn eu bywydau.
John Hayes
Pennaeth