Dyddiadau Pwysig
TYMOR 1AF
01/09/26 – 23/10/26
02/11/26 – 18/12/26
2IL DYMOR
04/01/27 – 05/02/27
15/02/27 – 19/03/27
3YDD TYMOR
05/04/27 – 28/05/27
07/06/27 – 20/07/27
Dyddiadau Tymor Cyngor Caerdydd
Diwrnodau HMS:
01/09/26
02/09/26
Digwyddiadau i Ddod;



Croeso i Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr!
Mae’n bleser mawr gennyf eich croesawu i’n gwefan. Yma yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, rydym yn ymfalchïo yn ein hymrwymiad i ddatblygu pob disgybl i’w llawn botensial.
Mae ein hysgol yn cynnig amgylchedd dysgu cefnogol a chynhwysol lle mae pob unigolyn yn cael ei werthfawrogi a’i barchu. Mae ein gwaith wedi ei seilio ar egwyddorion ein gweledigaeth o sicrhau Parch, Parodrwydd, Perthyn. Rydym yn gweithio’n agos gyda rhieni a’r gymuned ehangach i sicrhau bod ein disgyblion yn derbyn y cyfleoedd gorau posibl i lwyddo ac i ddatblygu’n ddinasyddion cyfrifol a hyderus.
Rwy’n gobeithio y byddwch yn mwynhau pori drwy ein gwefan ac yn cael cipolwg ar y cyfleoedd cyffrous a’r gweithgareddau amrywiol sydd ar gael yma yn Plasmawr.
Cymdeithas Rhieni
Dewch i ymuno â ni!
Ry’n ni’n gweithio’n ddiflino i ehangu adnoddau cymuned yr ysgol er lles y disgyblion a phawb. Felly, dewch i ymuno â ni!
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â craspplasmawr@gmail.com


