Yn Ysgol Plasmawr, ein nod yw darparu cwricwlwm eang a diddorol sy’n eich galluogi chi, fel dysgwyr, i gyflawni eich doniau a’ch diddordebau, gan roi’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau sydd eu hangen arnoch i ffynnu mewn byd sy’n newid yn barhaus.​

Hyd at ddiwedd Blwyddyn 9, mae pob dysgwr wedi dilyn ystod eang o bynciau. O Flwyddyn 10 ymlaen, bydd y pynciau craidd yn parhau, ond yn ogystal bydd dysgwyr yn dewis pynciau o gyfres o lwybrau cwricwlaidd sydd wedi’u cynllunio i ddiwallu eu hanghenion unigol.​

Bydd dysgwyr yn derbyn gwybodaeth ac arweiniad gan staff a chynghorwyr i’w helpu i wneud y mwyaf o’r llwybrau sydd ar gael. Yn ogystal, bydd cyfres o nosweithiau gwybodaeth a chyflwyniadau gan athrawon pwnc yn cefnogi dysgwyr wrth iddynt wneud eu penderfyniadau.

Arlwyo

Ast Cref

Cerdd

Cyfrifiadureg

Cymraeg

Ast Cyfryngau

Cymdeithaseg

Daearyddiaeth

Drama

Dysgu yn yr Awyr Agored

Ffrangeg

Graffeg

Gwyddoniaeth

Hanes

Mathemateg

Tech Cerdd

Tech Digidol