Loteri Ysgol

Mae loteri’r ysgol yn cael ei thynnu bob wythnos. Ar ôl cofrestru, byddwch yn cael eich cynnwys yn y raffl wythnosol. Y wobr wythnosol ar hyn o bryd yw £30 gyda hyn yn codi wrth i werthiant y tocynnau gynyddu.  Ein nod yw gwerthu 150 o docynnau yr wythnos, a fyddai’n codi £3,000 i ni dros y flwyddyn. Byddai hyn yn gam enfawr i’n helpu i dalu cost bws mini ac i helpu codi arian i anghenion eraill. Yn ogystal â’r wobr wythnosol, mae pawb yn cael eu cynnwys mewn raffl genedlaethol sydd ar hyn o bryd yn werth £25,000. Isod mae dolen i gofrestru ac i ddarganfod gwybodaeth bellach am y loteri.

Ysgol Plasmawr School Lottery

Cymuned WhatsApp - 'Helpu CRASP'

Mae hon yn gymuned i ledaenu gwybodaeth am ddigwyddiadau‘r flwyddyn. Hefyd mae yna gyfle i wirfoddoli e.e. helpu yn y caffi yn ystod cyngherddau‘r ysgol . Mae negeseuon bob amser yn cael eu cyfyngu o’r dechrau i’r diwedd ac mae eich rhif yn weladwy i’r gweinyddwr a’r rhai sydd eisoes â’ch rhif yn unig.

Mynychu Digwyddiadau

Bob blwyddyn rydym yn cynnal digwyddiadau gan gynnwys cwis. Darllenwch y cylchlythyr ysgol a’n dilyn ar Instagram.

Ymuno â'r Pwyllgor

 Ar hyn o bryd rydym yn bwyllgor o 10, gyda chymysgedd o staff a rhieni. Rydym yn cyfarfod dair gwaith y flwyddyn.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Caryl Jones, craspplasmaer@gmail.com

Diolch am eich cefnogaeth. Pwyllgor CRASP

Dilynwch ni ar Instagram

@craspplasmawr
Cyfle i weld digwyddiadau newydd a dilyn ein nodau codi arian.

Diolch am eich cefnogaeth. Pwyllgor CRASP