Yn Ysgol Plasmawr, ein nod yw darparu cwricwlwm eang a diddorol sy’n eich galluogi chi, fel dysgwyr, i gyflawni eich doniau a’ch diddordebau, gan roi’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau sydd eu hangen arnoch i ffynnu mewn byd sy’n newid yn barhaus.
Hyd at ddiwedd Blwyddyn 9, mae pob dysgwr wedi dilyn ystod eang o bynciau. O Flwyddyn 10 ymlaen, bydd y pynciau craidd yn parhau, ond yn ogystal bydd dysgwyr yn dewis pynciau o gyfres o lwybrau cwricwlaidd sydd wedi’u cynllunio i ddiwallu eu hanghenion unigol.
Bydd dysgwyr yn derbyn gwybodaeth ac arweiniad gan staff a chynghorwyr i’w helpu i wneud y mwyaf o’r llwybrau sydd ar gael. Yn ogystal, bydd cyfres o nosweithiau gwybodaeth a chyflwyniadau gan athrawon pwnc yn cefnogi dysgwyr wrth iddynt wneud eu penderfyniadau.