Llongyfarchiadau i ddisgyblion Blwyddyn 11 sydd wedi perfformio’n arbennig o dda yn eu cymwysterau TGAU, BTEC ac Agored Cymru eleni. Mae’r canlyniadau rhagorol yn deyrnged i’w hymroddiad, dyfalbarhad a’u gwaith diwyd dros y ddwy flynedd di-gynsail ddiwethaf dan amodau eithriadol o heriol i bawb. Dymunwn pob dymuniad da i bob un dysgwr ar gyfer y cam nesaf cyffrous yn eu bywydau.
Diolch i’r holl staff sydd wedi gweithio’n ddi-flino i roi pob cyfle i’r disgyblion lwyddo yn eu arholiadau TGAU a BTEC.
Da iawn bawb.
John Hayes
Pennaeth
Llongyfarchiadau mawr i holl fyfyrwyr Blwyddyn 13 ar eu llwyddiant arbennig yn eu cymwysterau Safon Uwch, BTEC a’r Fagloriaeth eleni. Mae’r canlyniadau rhagorol yn deyrnged i’w hymroddiad a’u gwaith diwyd dros y ddwy flynedd di-gynsail ddiwethaf dan amodau eithriadol o heriol i bawb. Rydym yn falch iawn o gyrhaeddiad bob un o’n myfyrwyr. Dymunwn pob dymuniad da i bob un ohonynt ar gyfer y cam nesaf cyffrous yn eu bywydau.
Mae’r mwyafrif helaeth o’r myfyrwyr a wnaeth gais am gyrsiau addysg uwch wedi eu derbyn i’r Prifysgol o’u dewis.
Mae fy niolch yn fawr i’r holl staff sydd wedi paratoi, cynllunio, addysgu, mentora ac asesu’r myfyrwyr trwy eu cyrsiau Safon Uwch, BTEC a’r Fagloriaeth a sydd wedi cyfrannu’n aruthrol at lwyddiant y myfyrwyr.
John Hayes
Pennaeth
Mae pob disgybl wedi cael cyfrif (fel arfer Enw.CyfenwBlwyddynDechrau ee Joe.Bloggs19) a chyfeiriad e-bost (Joe.Bloggs19@ ysgolplasmawr.cymru) ac maen nhw wedi gosod eu cyfrineiriau i'r cyfrifon hyn, dyma'r cyfrinair maen nhw'n ei ddefnyddio i fewngofnodi i'r cyfrifiaduron yn yr ysgol.
Yr un cyfrif a chyfrinair hwn (Joe.Bloggs19) yw'r hyn a ddefnyddir i fewngofnodi i Edulink a Moodle .
I fewngofnodi i'w cyfrifon e-bost bydd angen iddynt mynd yma ac ychwanegu @ysgolplasmawr.cymru a dal i ddefnyddio'r un cyfrinair.
Dim ond ar y rhwydwaith ysgol y gellir newid y cyfrinair yma, os oes gwir angen ei newid, cysylltwch â Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost sy'n cyfateb i'r hyn sydd gennym ar ein system.
Hwb
Mae manylion Hwb wedi'u hanfon i'w e-bost, os ydynt yn mewngofnodi i'w e-bost ysgol ac yn chwilio am 'Manylion Hwb' dylent ddod o hyd iddynt, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio'r ffolder o bethau sydd wedi'i dileu! Os na allwch ddod o hyd iddynt, cysylltwch â'r ysgol fel yr uchod.
Mae’r dogfen yma yn cynnwys manylion bras am y teithiau preswyl arfaethedig a gynigir yn ystod y flynyddoedd academaidd 2020-22. Anelir cynnig amrywiaeth o brofiadau teithiau i’n dysgwyr sy’n ystyried egwyddorion o gyfle cyfartal, gwerth addysgiadol a gofal am yr amgylchedd. Rwy’n ddiolchgar iawn i staff yr ysgol sydd yn barod i arwain teithiau preswyl mewn cyfnod lle mae teithiau i ddisgyblion yn genedlaethol yn mynd yn fwy prin.Mae’r tabl isod yn cynnwys manylion bras am y teithiau preswyl arfaethedig a gynigir yn ystod y flynyddoedd academaidd 2020-22. Anelir cynnig amrywiaeth o brofiadau teithiau i’n dysgwyr sy’n ystyried egwyddorion o gyfle cyfartal, gwerth addysgiadol a gofal am yr amgylchedd. Rwy’n ddiolchgar iawn i staff yr ysgol sydd yn barod i arwain teithiau preswyl mewn cyfnod lle mae teithiau i ddisgyblion yn genedlaethol yn mynd yn fwy prin.
Rydyn ni'n codi arian i brynu desg gymysgu sain a meicroffonau ar gyfer ein cyngherddau, cynyrchiadau drama, eisteddfodau, cyfarfodydd ysgol a mwy! Byddai bod yn berchen ar yr offer hwn yn arbed y £2,500 a mwy rydym yn ei dalu bob tro y mae angen i ni logi desg sain - yn ogystal â chostau llogi'r technegwyr sain perthnasol. Byddwn hefyd yn defnyddio'r ddesg i ddysgu sgiliau cymysgu sain i'n disgyblion (er enghraifft, fel rhan o'n cyrsiau cerddoriaeth a drama). Bydd yn wych eu cael i gymysgu'r sain ar gyfer ein digwyddiadau! Dewch i ni anelu at gael ein desg sain ein hunain yn barod ar gyfer cynhyrchiad gwanwyn 2020 o Billy Elliot! Bydd ein plant yn swnio'n wych ar y llwyfan! Bydd cymuned gyfan yr ysgol yn elwa o'r buddsoddiad hwn - a bydd yn ein helpu i godi arian i Blasmawr trwy fod â’r offer sydd ei angen arnom i ddenu rhagor o bobl i logi ein neuadd ar gyfer eu digwyddiadau. Cyfrannwch drwy ein tudalen gofundme, yma: https://tinyurl.com/y4ndm5ao
A diolch ymlaen llaw am eich cyfraniad i'r achos. Mae'n golygu cymaint i ni!
Tim CRASP
Ysgol Plasmawr
Heol Pentrebaen
Y Tyllgoed
Caerdydd
CF5 3PZ
Ffôn : 02920 405 499
Ffacs : 02920 405 496
post@ysgolplasmawr.cymru