Mae gan bob disgybl gyfrif (yn gyffredinol EnwCyntaf.CyfenwBlwyddynDechrau e.e. Joe.Bloggs22) a chyfeiriadau e-bost (Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.) a byddant wedi gosod eu cyfrineiriau i’r cyfrifon hyn, dyma’r cyfrinair a ddefnyddir i fewngofnodi i’r cyfrifiaduron yn ysgol.
Yr un enw cyfrif a chyfrinair (Joe.Bloggs22) yw'r hyn a ddefnyddir i fewngofnodi i Edulink a Moodle .

I fewngofnodi i'w cyfrifon e-bost bydd angen iddynt mynd yma ac ychwanegu @ysgolplasmawr.cymru a dal i ddefnyddio'r un cyfrinair.
Dim ond ar y rhwydwaith ysgolion y gellir newid y cyfrinair hwn (rhaid i'r defnyddiwr fewngofnodi a phwyso Ctrl+Alt+Del a dewis 'Newid Cyfrinair'), os oes gwir angen ei newid y tu allan i'r ysgol cysylltwch â Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost sy'n cyfateb i'r hyn sydd gennym ar ein system.

Hwb

Mae cyfrineiriau Hwb myfyrwyr fel arfer yn cael eu hailosod ym mlwyddyn 7 a bydd eu manylion wedi'u hanfon i'w e-bost ysgol, os ydynt yn mewngofnodi i'w e-bost ysgol a chwilio am 'Manylion Hwb' dylent ddod o hyd iddynt, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio'r Ffolder 'eitemau wedi'u dileu'!

Byddwch yn ymwybodol bod cyfrifon Hwb ac ysgolplasmawr.cymru ar lwyfan Microsoft 365, felly dylid allgofnodi o un cyn ceisio mewngofnodi i’r llall.
Gallwch naill ai ddefnyddio borwyr gwahnaol ar gyfer y gyfrifon neu osod proffiliau o fewn porwr i gadw'r cyfrifon/cwcis ar wahân.

Os ydych dal angen cymorth cysylltwch â'r ysgol fel uchod.