Mae’r adran ddrama wedi dewis astudio cyfieithiad o’r ddrama “Extremism” gan Anders Lustgarten.

Mae hi’n ddrama sydd ar yr arwyneb yn gofyn cwestiynau am y strategaeth wrth derfysgaeth, Prevent. Ai strategaeth sy’n llwyddo i ddiogelu pobl yn y wlad hon rhag eithafiaeth yw hi, neu oes modd cam-drin y system a chreu bwch dihangol o unigolion a chymunedau cyfan?

Yn oes y cyfryngau cymdeithasol, newyddiaduraeth barn fel ffaith a’r gallu i gyhoeddi mewn ennyd, credwn yn daer fod angen i ni arfogi’n disgyblion i allu darbwyllo a ffurfio eu credoau eu hunain yn seiliedig ar eu gwerthoedd nhw fel unigolion, yn hytrach na derbyn a chredu'r hyn mae’r rhyngrwyd am iddyn nhw gredu.

Rôl theatr yw diddanu, ond hefyd addysgu. Gwna hyn drwy ddal drych at ein cymdeithas i’n galluogi ni, o bellter diogel, uniaethu â phroblemau cymdeithasol, ffurfio barn ac adnabod trywyddion i’w hatal. Gall hyn yn aml iawn fod yn brofiad anghyfforddus, ond mae adfyfyrio ac edrych ar ein hymddygiad tuag at eraill wastad yn beth iach. Mae wastad am fod yn fwy anghyfforddus i’r sawl sy’n dioddef bwlio neu wahaniaethu o fewn ein cymunedau.

Heb os, un maes o bryder yn ein cymdeithas bresennol yw twf Islamaffobia a dylid gwneud pob cam posib i sicrhau nad yw’r fath ymddygiad yn gallu ymwreiddio o fewn ein hysgolion. Dylid herio ieithwedd achlysurol ar gae ac yng nghoridorau’r ysgol. Yn well fyth dylid ceisio dod a’r fath ymddygiad i ben yn gyfan gwbl. Credwn mai edrych i fyw llygaid y broblem yw’r ffordd ymlaen a galluogi trafodaethau dwys, gwerthfawr a diogel o fewn yr ystafell ddosbarth er mwyn ein galluogi ni oll i herio ystrydebau ac ieithwedd negyddol yn seiliedig ar hil neu grefydd.

Mae’r ddrama yn ymdrin â sawl mater y mae ein pobl ifanc yn eu hwynebu o ddydd i ddydd,

Delwedd y corff

Pwysau cymheiriaid

Hiliaeth

Caniatâd

Anhwylder y sbectrwm awtistiaeth

Cyfeillgarwch

Meddylfryd torfol

Ymddygiad

Cyfrifoldeb

Awdurdod

Ymysg eraill. Mae’n ddrama heriol, ac yr ydym yn teimlo bod gweld dehongliad ffuglenol o fwlio ar ei lefel symlaf (Yr hyn a’i gelwir yn aml yn ‘Banter’) yn ogystal ag ar ei waethaf (o fewn y ddrama gwelir y cymeriad Suhayla yn cael ei gorfodi i ddiosg yr hijab).

Nid ydym am frysio'r astudiaeth o’r ddrama hon. Bwriad yr adran yw gweithio ar y ddrama a’i themâu am flwyddyn. Gan edrych ar drama fel cerbyd ar gyfer newid cymdeithasol.

Bydd y disgyblion yn gallu arbenigo yn y meysydd canlynol.

Goleuo

Sain

Gwisg a Cholur

Set a Phropiau

Perfformio

Ym mhob trywydd bydd disgyblion angen cydnabod newid mewn naws golygfa yn seiliedig ar y digwyddiadau o fewn y sgript. Bydd angen sgiliau empathi i gyfiawnhau eu dewisiadau perfformiadol yn ogystal â sut mae eu sgiliau technegol yn cefnogi’r perfformiad mewn modd aeddfed a sensitif.

Yn syml, mae’r cwestiynau moesol a gyflwynir o fewn y ddrama yn adlewyrchu’r cwestiynau a phenderfyniadau moesol sy’n wynebu ein pobl ifanc yn ddyddiol. Efallai bod y llinell amser wedi chwyddo oherwydd hyd y ddrama ond yn sicr o ran cynnwys mae’r ieithwedd a’r agweddau a gyflwynir yn gyfarwydd yn barod. Gobeithiwn y bydd y ddrama hon yn gweithredu fel un strategaeth wrth fwlio ymysg sawl o fewn yr ysgol a fydd yn ein galluogi i barhau i weithio i sicrhau bod Ysgol Plasmawr a’i disgyblion yn gydlynol, yn gynhwysol ac yn fan diogel i bawb.